Opsiynau Hygyrchedd

Defnyddiwch yr opsiynau isod i osod ymddangosiad y wefan hon er mwyn i chi ei ddarllen yn haws

Maint Testun Dewiswch eich maint testun ffafrir o'r opsiynau isod

  • A
  • A
  • A

Lliwiau Dewiswch eich lliw gwefan ffafrir o'r opsiynau isod

Languages

National Theatre Wales
Trwy Gydol y Flwyddyn

TEAM

Ble bynnag y byddwn ni’n mynd, rydym yn cydweithredu â rhwydwaith cynyddol o aelodau TEAM ac yn eu cefnogi. Dyma’r boblo sy’n chwarae rhan ym mhopeth rydym yn ei wneud. Nhw yw ein harweinwyr yn eu cymunedau nhw: maent yn creu, yn ysbrydoli, yn perfformio, yn dysgu, yn ysgrifennu, yn trefnu, yn rheoli prosiectau, yn rhoi adborth ac yn gwneud penderfyniadau gyda ni ar ddyfodol National Theatre Wales.

Prosiectau a Digwyddiadau





Chwarae Eich Rhan

Dewch atom â‘ch syniadau a dywedwch wrthym am y profiadau rydych am eu cael a’r gefnogaeth y bydd angen arnoch. Ychydig iawn o reolau sydd, a gall unrhyw un fod yn rhan o TEAM. Gallwch drefnu digwyddiadau, marchnata ein sioeau, dysgu rhywbeth newydd, bod yn rhan o’n cynyrchiadau, newid ein meddylfryd neu alw heibio am sgwrs – gallwch chi benderfynu beth fydd eich cyfraniad at lunio eich National Theatre Wales.

Ydych chi'n byw yn Sir Benfro neu Wrecsam? Mae angen eich help arnom ni! Gyda'n gilydd byddwn yn creu dau gynhyrchiad NTW a byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau trwy gydol 2018 i gael eich barn ar yr hyn a dylem ni greu. Hoffem ni eich gweld chi yno, felly gadwch lygad allan am gyhoeddiadau pellach. Yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni ar team@nationaltheatrewales.org

TEAM Panel

Mae panel TEAM yn cyfrannu at ddatblygiad cyffredinol National Theatre Wales gan gynghori ar faterion megis recriwtio, rhaglenni, marchnata a hyfforddi. Trwy adeiladu ar ein cyflawniadau dros y ddwy flynedd diwethaf, mae’r panel yn rhoi TEAM wrth wraidd y sefydliad. Mae aelodau’r panel yn ein cynrychioli mewn digwyddiadau a pherfformiadau ac yn mynd i gyfarfodydd ac yn rhoi cyflwyniadau ar ein rhan. Maent yn rhoi adborth rheolaidd i staff a bwrdd National Theatre.

Gan gwrdd fel grŵp rhyw deirgwaith neu bedair gwaith y flwyddyn, rydym bob amser yn chwilio am bobl ag amrywiaeth eang o sgiliau, gwybodaeth, syniadau, profiadau a chefndiroedd.